Session 16: Article

Yn ystod y ddeunawfed a`r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Cwm Tawe Isaf yn ardal ddiwydiannol fawr

        During the eighteenth and nineteenth centuries, the Lower Swansea Valley was a major industrial area

Cafodd meintiau enfawr o gopr eu cynhyrchu gan ddefnyddio glo lleol

         Huge amounts of copper were produced using local coal

Mewnforiwyd mwyn copr yn gyntaf o Gernyw ac Ynys Môn, ac yna o rannau eraill o`r byd fel Chile ac Awstralia

         Copper ore was imported first from Cornwall and Anglesey, and then from other parts of the world such as Chile and Australia

Erbyn 1850 roedd un ar ddeg o weithfeydd copr mawr wedi`u sefydlu ar lannau Afon Tawe

         By 1850 eleven major copperworks had been established on the banks of the River Tawe

Am gyfnod fe wnaethant gynhyrchu dros hanner cyfanswm copr y byd

         For a time they produced over half of the world’s total copper

Fodd bynnag, daeth y Cwm yn llygredig gan y mwg gwenwynig a meintiau enfawr o wastraff copr neu ‘slag’

         However, the Valley became polluted by the poisonous smoke and huge amounts of copper waste or ‘slag’

Erbyn yr ugeinfed ganrif roedd dirywiad mewn mwyndoddi copr ac roedd y gweithfeydd yn dechrau cau

         By the twentieth century there was a decline in copper smelting and the works were starting to close

Daeth y Cwm yn un o`r ardaloedd diwydiannol mwyaf diffaith yn Ewrop

         The Valley became one of the most derelict industrial areas in Europe

Sefydlwyd Prosiect Cwm Tawe Isaf ym 1961

         The Lower Swansea Valley Project was established in 1961

Fe wnaeth y prosiect adfer tir hwn lanhau`r ardal, gan ddod â choed a phlanhigion yn ôl a chaniatáu i bysgod ddychwelyd i`r afon

         This land reclamation project cleaned up the area, bringing back trees and plants and allowing fish to return to the river

Adeiladwyd tai newydd ar safleoedd llawer o`r hen weithfeydd copr

         New houses were built on the sites of many of the old copper works

Yr unig safle diwydiannol pwysig sydd ar ôl yw Gwaith Copr Hafod-Morfa

         The only important industrial site which remains is the Hafod-Morfa Copperworks

Roedd hwn ar un adeg yn gasgliad o adeiladau diwydiannol enfawr, anhygoel o boeth a swnllyd

         This was once a collection of huge, incredibly hot and noisy industrial buildings

Llenwyd y rhain â pheiriannau pwerus ac roeddent yn cyflogi nifer enfawr o weithwyr

         These were filled with powerful machinery and employed a huge number of workers

Ar un ochr cafodd y gwaith copr ei gyflenwi gan Gamlas Abertawe a oedd yn cludo glo o lofeydd yn Nyffryn Tawe Uchaf

         On one side the copper works was supplied by the Swansea Canal which delivered coal from mines in the Upper Swansea Valley

Ar yr ochr arall, roedd cychod yn trosgludo mwyn copr a oedd wedi`i ddadlwytho o longau yn nociau Abertawe

         On the other side, boats delivered copper ore which had been unloaded from ships at Swansea docks

Caeodd gwaith Hafod-Morfa o`r diwedd ym 1980 ond mae`r adeiladau a`r peiriannau sydd ar ôl yn cael eu hadfer

         The Hafod-Morfa works finally closed in 1980 but the buildings and machinery which remain are being restored

Bydd y safle`n dod yn amgueddfa bwysig o hanes diwydiannol

         The site will become an important museum of industrial history